logo
Celf Ymarfer Coedwig Naturiol
CROESO>>>

 

Croeso i Celf Ymarfer Coedwig Naturiol

Cyflwyniad

Mae fy mhrofiadau o goedwigoedd yn llu a buont yn ddylanwad enfawr arnaf, yn bennaf y goedlan hynafol, hardd ac eithriadol hon yng Nghymru lle cefais fy magu, coedlan fu yma ers i'r rhewlif olaf gilio tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl; y coed a blennais a'r coedwigoedd a welais yn Affrica; coedwigoedd dwyrain Ewrop ac yn arbennig coedwigoedd hynafol Gogledd Orllewin America a brofais trwy lygaid eco- goedwigwyr lleol (cliciwch ar - Publications).

Dim ond y rhan weledol o'r goedwig yw'r coed; y nhw yw'r sgaffaldiau, lle mae popeth yn dibynnu arnynt i gynnal cymunedau amrywiol sy'n tyfu, pydru, yn ailgylchu ac yn ail greu dan ddylanwad y pridd, dwr, aer a'r hinsawdd a thrwy hynny gynnal amrywiaeth enfawr o adar, pryfed, planhigion, rhedyn, mamaliaid, mwsoglau, fungi a llawer iawn mwy. Mae'r goedwig amrywiol a chymhleth hon yn bensaernïaeth bur sy'n well hyd yn oed nac eglwysi cadeiriol Gothig o ran eu gofod, mosaig o liw, goleuni, sain, teimlad a bywyd sy'n newid yn gyson o flwyddyn i flwyddyn heb fyth fod yr un fath ddwywaith. Mae'r coedwigoedd (y gallwn gael profiad ohonynt ein hunain) yn fwy cymhleth na'r bydysawd, ond er hynny rydym yn deall llai amdanynt nag a wnawn am ein galaethau (yr edrychwn arnynt o hirbell).

Pe bai pobl yr oesoedd canol yn dychwelyd byddent yn ddigllon iawn i ni fethu gwarchod y trysorau hyn; colli fauna a flora, sgiliau, gwybodaeth, profiad, y coed a'r coedwigoedd na fydd bellach yn gallu ail doi eglwys y pentref, adeiladu tŷ fferm, llongau cryfion a ymladdodd yr Armada, na gwresogi ein tai, darparu madarch bwytadwy, rhisgl i liwio lledr a llawer iawn mwy. O edrych yn ofalus gwelir bonion coedydd mawrion yn gudd mewn gwrychoedd; mor wahanol yr edrychai cefn gwlad hyd yn oed mor ddiweddar â chanrif yn ôl! Mae ein coedlannau yn gynnyrch miloedd lawer o flynyddoedd o ymyrraeth gennym ni, llawer ohono yn ymyrraeth i ddifrodi'r coed a'r coedwigoedd.

Sut i ddad ddysgu popeth a ddysgais erioed

Mae ein hymateb wedi pegynnu - ac o ganlyniad cafwyd Silviculture a Conservation. Mae un yn canolbwyntio ar goed a'r llall yn canolbwyntio ar gadwraeth ac ar gadw habitat arbenigol. Mae rheolaeth yn fater obsesiynol, a hynny i gyd yn disodli gwybodaeth a phrofiad a enillwyd yn ymarferol trwy weithio mewn coedwigoedd cynhyrchiol. Mae hyn yn ein hatal rhag ystyried, holi a chydnabod y diffyg sylw a gofal a welwn bob dydd. Nid yw iechyd coedwigoedd byth yn cael sylw. Mae natur yn ffynnu ar gael amrywiaeth a chael systemau cymhleth sy'n edrych yn flêr i ni! Mae coedlannau hynafol a choedwigoedd hen dyfiant yn dangos sut mae coedwigoedd yn gweithio, yn ein dysgu sut i fyw mewn cytgord hefo natur a chynnal coedwigoedd i fod yn rhai hunan gynhaliol ac iach. Felly pan fo natur yn ymyrryd yn ein bywydau, ni ddylem ystyried hynny fel rhywbeth dinistriol ond fel ffordd o gywiro ein camgymeriadau - diwedd mono-cultures sydd ddim yn parchu'r angen am amrywiaeth, natur yn chwythu coed i lawr i adfywio llawr y goedwig, mieri yn tyfu i warchod y pridd, fungi yn pydru ac yn ailgylchu - mae'r gwersi'n ddiddiwedd.

Selir y sylwadau hyn yn Natural Forest Practice, a phwrpas y wefan hon yw astudio hynny. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig ein coedlannau hynafol ym Mhrydain ond pob math o goedwigoedd; llydanddail, conifferaidd a hefyd eu plannu, nid yn unig yma ond yn America ac yn fyd eang. Gweler mwy am y technegau yn Preaching Revolution (cliciwch - Creative observing).

Mae'r cyhoedd sy'n dod ataf yn llawn gwerthfawrogiad. Dônt yma i fwynhau heddwch a thawelwch, lleihau stress ac wedi dod yma maen nhw'n synhwyro bod rhywbeth yn gywir yn yr hyn a welant (gweler y sylwadau yn fy llyfr ymwelwyr!). Mae yma amffitheatr yn y goedlan hefo brazier i rostio marsh mallows ac yn crogi rhwng y coed mae darluniadau (arbrofol ar hyn o bryd) sy'n dangos cymhlethdod bywyd cymuned y goedwig. Mae'r goedlan hynafol yn denu plant i grwydro'n rhydd ar ôl gadael eu rhieni'n eistedd wrth y tân. Mae'r cyfle i addysgu mor eang â'ch dychymyg, gall pawb gyfrannu rhywbeth (gweler y diolchiadau ar waelod y tudalennau Arsylwi Creadigol).

Mae'r wefan hon yn newydd a bach ond yn un sy'n tyfu; mae dros hanner can tudalen yn cael eu paratoi ar ddethol naturiol, monitro, mannau cysgodol, prennau, storio carbon, glawiad, cofnodi, ecoleg ddofn a thrawsblannu ac yn y blaen.

Byddaf yn ceisio ychwanegu rhywbeth bob mis. Bwriad y safle yw tynnu eich sylw at ddiwylliant i goedlannau sy'n newydd ac unigryw i'r unfed ganrif ar hugain.